Jeremiah 34:14 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ymhen saith mlynedd gollyngwch bob un ei frawd o Hebread, yr hwn a werthwyd i ti, ac a'th wasanaethodd chwe blynedd; gollwng ef yn rhydd oddi wrthyt: ond ni wrandawodd eich tadau arnaf, ac ni ogwyddasant eu clustiau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Bob saith mlynedd rhaid i chi ollwng yn rhydd eich cydwladwyr Hebreig sydd wedi gwerthu eu hunain i chi ac wedi'ch gwasanaethu chi am chwe mlynedd.” Ond wnaeth eich hynafiaid ddim gwrando na chymryd unrhyw sylw ohono i.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Cyn pen saith mlynedd yr ydych i ollwng yn rhydd bob un ei frawd o Hebrwr a werthwyd iddo ac a'i gwasanaethodd am chwe blynedd, a'i ollwng yn rhydd oddi wrtho." Ond ni wrandawodd eich hynafiaid arnaf, na rhoi clust.