Jeremiah 34:16 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond chwi a ddychwelasoch, ac a halogasoch fy enw, ac a ddygasoch yn eu hôl bob un ei wasanaethwr, a phob un ei wasanaethferch, y rhai a ollyngasech yn rhyddion wrth eu hewyllys eu hun: caethiwasoch hwynt hefyd i fod yn weision ac yn forynion i chwi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond wedyn dyma chi'n newid eich meddwl eto a dangos bod gynnoch chi ddim parch ata i go iawn. Dyma chi'n cymryd y dynion a'r merched oedd wedi cael eu gollwng yn rhydd i fyw eu bywydau eu hunain, a'u gwneud nhw'n gaethweision unwaith eto!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond wedyn bu edifar gennych am hyn, a halogasoch fy enw trwy i bob un ddwyn yn l ei was a'i forwyn y dymunai eu gollwng yn rhydd, a'u caethiwo eilwaith.