Jeremiah 34:17 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Ni wrandawsoch arnaf fi, gan gyhoeddi rhyddid bob un i'w frawd, a phob un i'w gymydog: wele fi yn cyhoeddi i'ch erbyn, medd yr ARGLWYDD, ryddid i'r cleddyf, i'r haint, ac i'r newyn, ac mi a wnaf eich symud chwi i holl deyrnasoedd y ddaear.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“‘Felly, dyma dw i, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud: “Dych chi ddim wedi gwrando arna i go iawn. Dych chi ddim wedi gollwng eich cymdogion a'ch cydwladwyr yn rhydd. Felly dw i'n mynd roi rhyddid i ryfel, newyn a haint eich lladd chi.” Fi, yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. “Bydd beth fydd yn digwydd i chi yn dychryn pobl y gwledydd i gyd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Ni wrandawsoch arnaf fi i gyhoeddi diwrnod rhyddhad i'ch gilydd, yn berthnasau a chymdogion; yn awr dyma fi'n cyhoeddi diwrnod rhyddhad i'r cleddyf a haint a newyn!' medd yr ARGLWYDD. 'Fe'ch gwnaf yn arswyd i holl deyrnasoedd y ddaear.