Jeremiah 34:20 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ie, mi a'u rhoddaf hwynt yn llaw eu gelynion, ac yn llaw y rhai sydd yn ceisio eu heinioes: a'u celain fydd yn fwyd i ehediaid y nefoedd, ac i anifeiliaid y ddaear.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Byddan nhw'n cael eu rhoi yn nwylo'r gelynion sydd am eu lladd nhw. Bydd eu cyrff yn fwyd i adar ac anifeiliaid gwylltion.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
fe'u rhof yn llaw eu gelynion ac yn llaw y rhai sy'n ceisio'u heinioes; bydd eu celanedd yn fwyd i adar y nefoedd ac i anifeiliaid gwyllt.