Jeremiah 34:21 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A mi a roddaf Sedeceia brenin Jwda, a'i dywysogion, i law eu gelynion, ac i law y rhai sydd yn ceisio eu heinioes, ac yn llaw llu brenin Babilon, y rhai a aethant i fyny oddi wrthych.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd y brenin Sedeceia a'i swyddogion yn cael eu rhoi yn nwylo'r gelynion hefyd. Mae brenin Babilon a'i fyddin wedi mynd i ffwrdd a stopio ymosod arnoch chi am y tro.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Rhof Sedeceia brenin Jwda, a'i holl dywysogion, yn llaw eu gelynion a'r rhai sy'n ceisio'u heinioes, ac yn llaw llu brenin Babilon sydd yn awr yn cilio oddi wrthych.