Jeremiah 34:3 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac ni ddihengi dithau o'i law ef, canys diau y'th ddelir, ac y'th roddir i'w law ef; a'th lygaid di a gânt weled llygaid brenin Babilon, a'i enau ef a ymddiddan â'th enau di, a thithau a ei i Babilon.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A fyddi di ddim yn dianc o'i afael. Byddi'n cael dy ddal ac yn cael dy osod i sefyll dy brawf o'i flaen a'i wynebu'n bersonol. Wedyn byddi'n cael dy gymryd i Babilon.’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac ni ddihengi dithau o'i afael, ond yr wyt yn sicr o gael dy ddal, a'th roi yn ei afael; byddi'n edrych arno lygad yn llygad, ac yntau'n ymddiddan thi wyneb yn wyneb, a byddi'n mynd i Fabilon.