Jeremiah 34:7 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Pan oedd llu brenin Babilon yn rhyfela yn erbyn Jerwsalem, ac yn erbyn holl ddinasoedd Jwda y rhai a adawsid, yn erbyn Lachis, ac yn erbyn Aseca: canys y dinasoedd caerog hyn a adawsid o ddinasoedd Jwda.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd byddin brenin Babilon yn dal i ymladd yn erbyn Jerwsalem ar y pryd, ac hefyd yn erbyn Lachish ac Aseca, yr unig gaerau amddiffynnol yn Jwda oedd yn dal eu tir.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
pan oedd llu brenin Babilon yn rhyfela yn erbyn Jerwsalem ac yn erbyn holl ddinasoedd Jwda oedd yn weddill, sef Lachis ac Aseca; oherwydd hwy oedd yr unig ddinasoedd caerog a adawyd o blith dinasoedd Jwda.