Jeremiah 35:11 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond pan ddaeth Nebuchodonosor brenin Babilon i fyny i'r wlad, nyni a ddywedasom, Deuwch, ac awn i Jerwsalem, rhag llu y Caldeaid, a rhag llu yr Asyriaid: ac yn Jerwsalem yr ydym ni yn preswylio.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond pan ddaeth Nebwchadnesar brenin Babilon i ymosod ar y wlad, dyma ni'n penderfynu dianc i Jerwsalem oddi wrth fyddin Babilon a byddin Syria. A dyna pam dŷn ni yma yn Jerwsalem.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond pan gododd Nebuchadnesar brenin Babilon yn erbyn y wlad, dywedasom, 'Dewch, awn i Jerwsalem i osgoi llu'r Caldeaid a llu Syria'; a dyna pam yr ydym yn byw yn Jerwsalem."