Jeremiah 35:14 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Geiriau Jonadab mab Rechab, y rhai a orchmynnodd efe i'w feibion, nad yfent win, a gyflawnwyd: canys nid yfant hwy win hyd y dydd hwn; ond hwy a wrandawant ar orchymyn eu tad: a minnau a ddywedais wrthych chwi, gan godi yn fore, a llefaru; ond ni wrandawsoch arnaf.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
‘Roedd Jonadab fab Rechab wedi dweud wrth ei ddisgynyddion am beidio yfed gwin, ac maen nhw wedi gwrando arno. Dŷn nhw erioed wedi yfed gwin. Ond dw i wedi bod yn siarad hefo chi dro ar ôl tro, a dych chi byth yn gwrando arna i.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
'Fe gadwyd geiriau Jonadab fab Rechab pan orchmynnodd i'w blant nad yfent win, oherwydd nid ydynt yn ei yfed hyd heddiw, ond y maent yn ufuddhau i orchymyn eu tad. Ond er i mi lefaru'n daer wrthych, nid ydych chwi'n ufuddhau i mi.