Jeremiah 35:15 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Myfi a anfonais hefyd atoch chwi fy holl weision y proffwydi, gan godi yn fore, ac anfon, gan ddywedyd, Dychwelwch yn awr bawb oddi wrth ei ffordd ddrwg, a gwellhewch eich gweithredoedd, ac nac ewch ar ôl duwiau dieithr, i'w gwasanaethu hwynt; a chwi a drigwch yn y wlad yr hon a roddais i chwi ac i'ch tadau: ond ni ogwyddasoch eich clustiau, ac ni wrandawsoch arnaf.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i wedi anfon un proffwyd ar ôl y llall i'ch rhybuddio chi, a dweud, “Rhaid i chi stopio gwneud y pethau drwg dych chi'n eu gwneud. Rhaid i chi newid eich ffyrdd a peidio addoli a gwasanaethu eilun-dduwiau paganaidd, wedyn cewch fyw yn y wlad rois i i chi a'ch hynafiaid.” Ond wnaethoch chi ddim cymryd unrhyw sylw na gwrando ar beth roeddwn i'n ddweud.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Anfonais atoch fy holl weision, y proffwydi, a'u hanfon yn gyson gan ddweud: "Trowch yn wir bob un o'i ffordd ddrygionus, a gwella'ch gweithredoedd; peidiwch mynd ar l duwiau eraill i'w gwasanaethu. Yna cewch fyw yn y tir a roddais i chwi ac i'ch hynafiaid." Ond ni wrandawsoch arnaf fi nac ufuddhau.