Jeremiah 35:18 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Jeremeia a ddywedodd wrth dylwyth y Rechabiaid, Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, DUW Israel, Oherwydd i chwi wrando ar orchymyn Jonadab eich tad, a chadw ei holl orchmynion ef, a gwneuthur yn ôl yr hyn oll a orchmynnodd efe i chwi:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dyma Jeremeia'n dweud wrth y gymuned o Rechabiaid: “Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Dych chi wedi gwrando ar orchymyn eich cyndad Jonadab. Dych chi wedi gwneud popeth ddwedodd e wrthych chi ei wneud.’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac wrth deulu'r Rechabiaid dywedodd Jeremeia, "Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: 'Oherwydd i chwi ufuddhau i orchymyn Jonadab eich tad, a chadw ei holl ddeddfau a gwneud pob peth a orchmynnodd i chwi,