Jeremiah 35:6 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond hwy a ddywedasant, Nid yfwn ni ddim gwin: oherwydd Jonadab mab Rechab ein tad a roddodd i ni orchymyn, gan ddywedyd, Nac yfwch win, na chwychwi na'ch plant, yn dragywydd:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dyma nhw'n ateb, “Na. Dŷn ni ddim yn yfed gwin am fod Jonadab fab Rechab ein cyndad ni wedi dweud wrthon ni am beidio. ‘Dylech chi a'ch plant byth yfed gwin,’ meddai.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond dywedasant, "Nid yfwn ni win, oherwydd gorchmynnodd Jonadab, mab Rechab ein tad, i ni, 'Peidiwch ag yfed gwin, chwi na'ch plant, byth;