Jeremiah 36:14 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna yr holl dywysogion a anfonasant Jehudi mab Nethaneia, mab Selemeia, mab Cusi, at Baruch, gan ddywedyd, Cymer yn dy law y llyfr y darllenaist allan ohono lle y clybu y bobl, a thyred. Felly Baruch mab Nereia a gymerodd y llyfr yn ei law, ac a ddaeth atynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma swyddogion y llys yn anfon Iehwdi (oedd yn fab i Nethaneia, ŵyr i Shelemeia, ac yn or-ŵyr i Cwshi) at Barŵch i'w nôl ac i ddweud wrtho am ddod â'r sgrôl oedd e wedi ei darllen gydag e. Felly dyma Barŵch yn mynd atyn nhw a'r sgrôl gydag e.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna anfonodd yr holl swyddogion Jehudi fab Nethaneia, fab Selemeia, fab Cushi, at Baruch a dweud, "Cymer yn dy law y sgrl a ddarllenaist yng nghlyw'r bobl, a thyrd." Cymerodd Baruch fab Nereia y sgrl yn ei law, ac aeth atynt.