Jeremiah 36:19 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y tywysogion a ddywedasant wrth Baruch, Dos ac ymguddia, ti a Jeremeia; ac na wyped neb pa le y byddoch chwi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma'r swyddogion yn dweud wrth Barŵch, “Rhaid i ti a Jeremeia fynd i guddio, a peidio gadael i neb wybod ble ydych chi.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna dywedodd y swyddogion wrth Baruch, "Dos ac ymguddia, ti a Jeremeia, a pheidiwch gadael i neb wybod lle'r ydych."