Jeremiah 36:21 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r brenin a anfonodd Jehudi i gyrchu y llyfr. Ac efe a'i dug ef o ystafell Elisama yr ysgrifennydd. A Jehudi a'i darllenodd lle y clybu y brenin, a lle y clybu yr holl dywysogion oedd yn sefyll yn ymyl y brenin.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma'r brenin yn anfon Iehwdi i nôl y sgrôl. Aeth Iehwdi i'w nôl o ystafell Elishama, ac yna ei darllen i'r brenin a'r swyddogion oedd yn sefyll o'i gwmpas.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna anfonwyd Jehudi gan y brenin i gyrchu'r sgrl, a daeth yntau hi o ystafell Elisama yr ysgrifennydd; a darllenodd Jehudi hi yng nghlyw'r brenin a'r holl swyddogion oedd yn sefyll yn ymyl y brenin.