Jeremiah 36:29 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A dywed wrth Jehoiacim brenin Jwda, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Ti a losgaist y llyfr hwn, gan ddywedyd, Paham yr ysgrifennaist ynddo, gan ddywedyd, Diau y daw brenin Babilon, ac a anrheithia y wlad hon; ac efe a wna i ddyn ac i anifail ddarfod ohoni?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dywed wrth Jehoiacim, brenin Jwda fy mod i, yr ARGLWYDD, yn dweud: ‘Rwyt wedi llosgi'r sgrôl, a gofyn i Jeremeia pam wnaeth e ysgrifennu arni fod brenin Babilon yn mynd i ddod i ddinistrio'r wlad yma, a chipio pobl ac anifeiliaid ohoni.’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A dywed wrth Jehoiacim brenin Jwda, 'Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Fe losgaist ti'r sgrl hon, gan ddweud, "Pam yr ysgrifennaist arni fod brenin Babilon yn sicr o ddod ac anrheithio'r wlad hon, nes darfod dyn ac anifail oddi arni?"