Jeremiah 36:30 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD am Jehoiacim brenin Jwda; Ni bydd iddo ef a eisteddo ar frenhinfainc Dafydd: a'i gelain ef a fwrir allan i wres y dydd, ac i rew y nos.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud am Jehoiacim, brenin Jwda: ‘Fydd neb o'i ddisgynyddion yn eistedd ar orsedd Dafydd. Pan fydd e farw fydd ei gorff ddim yn cael ei gladdu — bydd yn cael ei daflu i orwedd allan yn haul poeth y dydd a barrug y nos.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD am Jehoiacim brenin Jwda: Ni bydd iddo neb i eistedd ar orsedd Dafydd; teflir allan ei gelain i wres y dydd a rhew'r nos.