Jeremiah 36:31 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A mi a ymwelaf ag ef, ac â'i had, ac â'i weision, am eu hanwiredd; a mi a ddygaf arnynt hwy, ac ar drigolion Jerwsalem, ac ar wŷr Jwda, yr holl ddrwg a leferais i'w herbyn, ond ni wrandawsant.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i'n mynd i'w gosbi e a'i ddisgynyddion a'i swyddogion am yr holl bethau drwg maen nhw wedi eu gwneud. Bydda i'n eu taro nhw (a pobl Jerwsalem a Jwda) hefo pob dinistr dw i wedi ei fygwth, am iddyn nhw ddal i wrthod gwrando.’”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ymwelaf ag ef ac 'i had a'i weision am eu drygioni, a dwyn arnynt hwy a thrigolion Jerwsalem a phobl Jwda yr holl ddinistr a leferais yn eu herbyn, a hwythau heb wrando.'"