Jeremiah 36:4 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna Jeremeia a alwodd Baruch mab Nereia; a Baruch a ysgrifennodd o enau Jeremeia holl eiriau yr ARGLWYDD, y rhai a lefarasai efe wrtho, mewn plyg llyfr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma Jeremeia yn galw am Barŵch fab Nereia i'w helpu. Wrth i Jeremeia adrodd pob un neges roedd yr ARGLWYDD wedi ei roi iddo, roedd Barŵch yn ysgrifennu'r cwbl i lawr ar y sgrôl.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna galwodd Jeremeia ar Baruch fab Nereia, ac wrth i Jeremeia lefaru ysgrifennodd Baruch yn y sgrl yr holl eiriau a lefarodd yr ARGLWYDD wrth Jeremeia.