Jeremiah 36:9 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yn y bumed flwyddyn i Jehoiacim mab Joseia brenin Jwda, ar y nawfed mis, y cyhoeddasant ympryd gerbron yr ARGLWYDD, i'r holl bobl yn Jerwsalem, ac i'r holl bobl a ddaethent o ddinasoedd Jwda i Jerwsalem.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd pobl Jerwsalem a'r holl bobl oedd wedi dod i mewn o drefi Jwda yn cynnal ympryd. Roedd hyn yn y nawfed mis o'r bumed flwyddyn pan oedd Jehoiacim fab Joseia yn frenin ar Jwda.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn y bumed flwyddyn i Jehoiacim fab Joseia, brenin Jwda, yn y nawfed mis, cyhoeddwyd ympryd gerbron yr ARGLWYDD i drigolion Jerwsalem ac i'r holl bobl a ddaeth o ddinasoedd Jwda i Jerwsalem.