Jeremiah 37:17 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y brenin Sedeceia a anfonodd, ac a'i cymerodd ef allan: a'r brenin a ofynnodd iddo yn gyfrinachol yn ei dŷ ei hun, ac a ddywedodd, A oes gair oddi wrth yr ARGLWYDD? A dywedodd Jeremeia, Oes; canys tydi (eb efe) a roddir yn llaw brenin Babilon.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma'r brenin Sedeceia yn anfon am Jeremeia, a dod ag e i'r palas i'w holi'n gyfrinachol. “Oes gen ti neges gan yr ARGLWYDD?” meddai. “Oes,” meddai Jeremeia, “Ti'n mynd i gael dy roi yn nwylo brenin Babilon!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna anfonodd y Brenin Sedeceia, a'i dderbyn i'w u373?ydd a'i holi'n gyfrinachol yn ei du375?, a dweud, "A oes gair oddi wrth yr ARGLWYDD?" Atebodd Jeremeia, "Oes; fe'th roddir yn llaw brenin Babilon."