Jeremiah 37:18 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Jeremeia hefyd a ddywedodd wrth y brenin Sedeceia, Pa bechod a wneuthum i i'th erbyn di, neu yn erbyn dy weision, neu yn erbyn y bobl hyn, pan y'm rhoddasoch yn y carchardy?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wedyn dyma Jeremeia'n gofyn i'r brenin, “Pa ddrwg dw i wedi ei wneud i ti, neu i dy swyddogion, neu i'r bobl yma? Pam ydych chi wedi fy nhaflu i yn y carchar?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A dywedodd Jeremeia wrth y Brenin Sedeceia, "Pa ddrwg a wneuthum i ti neu i'th weision neu i'r bobl hyn, i beri i chwi fy rhoi yng ngharchar?