Jeremiah 37:21 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y brenin Sedeceia a orchmynnodd iddynt hwy roddi Jeremeia yng nghyntedd y carchardy, a rhoddi iddo ef deisen o fara beunydd o heol y pobyddion, nes darfod yr holl fara yn y ddinas. Felly Jeremeia a arhosodd yng nghyntedd y carchardy.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma'r brenin Sedeceia yn gorchymyn cadw Jeremeia yn iard y gwarchodlu. Rhoddodd orchymyn hefyd ei fod i gael dogn o fara ffres o Stryd y Pobyddion bob dydd, o leia tra bod bara i'w gael yn y ddinas. Felly cafodd Jeremeia ei gadw yn iard y gwarchodlu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna rhoes y Brenin Sedeceia orchymyn, a rhoddwyd Jeremeia yng ngofal llys y gwylwyr, a rhoddwyd iddo ddogn dyddiol o un dorth o fara o Stryd y Pobyddion, nes darfod yr holl fara yn y ddinas. Ac arhosodd Jeremeia yng nghyntedd y gwylwyr.