Jeremiah 37:5 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A llu Pharo a ddaethai allan o'r Aifft: a phan glybu y Caldeaid oedd yn gwarchae ar Jerwsalem sôn amdanynt, hwy a aethant ymaith oddi wrth Jerwsalem.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd byddin Babilon wedi stopio ymosod ar Jerwsalem am y tro. Roedden nhw wedi clywed fod byddin y Pharo yn dod i fyny o'r Aifft, ac felly dyma nhw'n gadael Jerwsalem.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac yr oedd llu Pharo wedi dod i fyny o'r Aifft, a phan glywodd y Caldeaid oedd yn gwarchae ar Jerwsalem am hyn, ciliasant oddi wrth Jerwsalem.