Jeremiah 37:7 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, DUW Israel; Fel hyn y dywedwch chwi wrth frenin Jwda, yr hwn a'ch anfonodd chwi ataf fi i ymofyn â mi; Wele, llu Pharo, yr hwn a ddaeth allan yn gynhorthwy i chwi, a ddychwel i'w wlad ei hun, i'r Aifft.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: Dwedwch wrth frenin Jwda wnaeth eich anfon chi ata i am help: ‘Bydd byddin y Pharo, sydd ar ei ffordd i'ch helpu chi, yn mynd yn ôl adre i'r Aifft,
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Dyma'r hyn a ddywed yr ARGLWYDD, Duw Israel: 'Dywedwch fel hyn wrth frenin Jwda, sydd wedi eich anfon i ymofyn mi: Bydd llu Pharo, a ddaeth atoch yn gymorth, yn dychwelyd i'w wlad ei hun, i'r Aifft.