Jeremiah 38:14 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y brenin Sedeceia a anfonodd, ac a gymerodd Jeremeia y proffwyd ato i'r trydydd cyntedd, yr hwn sydd yn nhŷ yr ARGLWYDD; a'r brenin a ddywedodd wrth Jeremeia, Mi a ofynnaf i ti beth: na chela ddim oddi wrthyf fi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma'r brenin Sedeceia yn anfon am y proffwyd Jeremeia i'w gyfarfod wrth y drydedd fynedfa i deml yr ARGLWYDD. A dyma fe'n dweud wrth Jeremeia, “Dw i eisiau dy holi di. Paid cuddio dim oddi wrtho i.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Anfonodd y Brenin Sedeceia i gyrchu'r proffwyd Jeremeia ato yn y trydydd cyntedd i du375?'r ARGLWYDD, a dywedodd wrth Jeremeia, "Yr wyf am ofyn rhywbeth i ti; paid chelu dim oddi wrthyf."