Jeremiah 38:16 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Felly y brenin Sedeceia a dyngodd wrth Jeremeia yn gyfrinachol, gan ddywedyd, Fel mai byw yr ARGLWYDD, yr hwn a wnaeth i ni yr enaid hwn, ni roddaf fi di i farwolaeth, ac ni roddaf di yn llaw y gwŷr hyn sydd yn ceisio dy einioes.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dyma'r brenin Sedeceia yn addo i Jeremeia, “Mor sicr â bod yr ARGLWYDD sy'n rhoi bywyd i ni yn fyw, wna i ddim dy ladd di, a wna i ddim dy roi di yn nwylo'r dynion hynny sydd eisiau dy ladd di chwaith.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond tyngodd y Brenin Sedeceia wrth Jeremeia yn gyfrinachol, "Cyn wired bod yr ARGLWYDD, a roes einioes inni, yn fyw, ni'th rof i farwolaeth, na'th roi yng ngafael y rhai hyn sy'n ceisio dy einioes."