Jeremiah 38:17 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y dywedodd Jeremeia wrth Sedeceia, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, DUW y lluoedd, DUW Israel; Os gan fyned yr ei di allan at dywysogion brenin Babilon, yna y bydd dy enaid fyw, ac ni losgir y ddinas hon â thân; a thithau a fyddi fyw, ti a'th deulu.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma Jeremeia'n dweud wrth Sedeceia, “Dyma mae'r ARGLWYDD, y Duw holl-bwerus, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Rhaid i ti ildio i swyddogion brenin Babilon. Os gwnei di, byddi di a dy deulu yn cael byw, a fydd y ddinas yma ddim yn cael ei llosgi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna dywedodd Jeremeia wrth Sedeceia, "Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw'r Lluoedd, Duw Israel: 'Os ei allan ac ymostwng i swyddogion brenin Babilon, yna byddi fyw, ac ni losgir y ddinas hon thn; byddi fyw, ti a'th dylwyth.