Jeremiah 38:2 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD, Yr hwn a arhoso yn y ddinas hon, a fydd farw trwy y cleddyf, trwy newyn, a thrwy haint: ond y neb a elo allan at y Caldeaid, a fydd byw; canys ei einioes fydd yn ysglyfaeth iddo, a byw fydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Bydd pawb sy'n aros yn y ddinas yma yn cael eu lladd yn y rhyfel, neu'n marw o newyn neu haint. Ond bydd y rhai sy'n ildio i'r Babiloniaid yn cael byw.’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: 'Pwy bynnag fydd yn aros yn y ddinas hon, fe fydd farw trwy gleddyf, newyn a haint; ond pwy bynnag fydd yn mynd allan at y Caldeaid, bydd hwnnw fyw; bydd yn arbed ei fywyd ac yn byw.'