Jeremiah 38:20 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Jeremeia a ddywedodd, Ni roddant ddim: gwrando, atolwg, ar lais yr ARGLWYDD, yr hwn yr ydwyf fi yn ei draethu i ti; felly y bydd yn dda i ti, a'th enaid a fydd byw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Na, fydd hynny ddim yn digwydd,” meddai Jeremeia. “Gwna di beth mae'r ARGLWYDD wedi ei ddweud trwyddo i, a bydd popeth yn iawn. Bydd dy fywyd yn cael ei arbed.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd Jeremeia, "Ni'th roddir yn eu gafael. Gwrando yn awr ar lais yr ARGLWYDD yn yr hyn yr wyf yn ei lefaru wrthyt, a bydd yn dda iti, a chedwir dy einioes.