Jeremiah 38:22 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wele, yr holl wragedd, y rhai a adawyd yn nhŷ brenin Jwda, a ddygir allan at dywysogion brenin Babilon; a hwy a ddywedant, Dy gyfeillion a'th hudasant, ac a'th orchfygasant; dy draed a lynasant yn y dom, a hwythau a droesant yn eu hôl.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd y merched sydd ar ôl yn y palas brenhinol yn cael eu cymryd at swyddogion brenin Babilon, a dyma fydd yn cael ei ddweud amdanat ti: ‘Mae dy ffrindiau wedi dy gamarwain di! Maen nhw wedi cael y gorau arnat ti! Pan oedd dy draed yn sownd yn y mwd dyma nhw'n cerdded i ffwrdd!’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
'Wele, caiff yr holl wragedd a adawyd yn nhu375? brenin Jwda eu dwyn allan at swyddogion brenin Babilon, ac fe ddywedant, "Hudodd dy gyfeillion di, a buont yn drech na thi; yn awr, a'th draed wedi glynu yn y llaid, troesant draw oddi wrthyt."'