Jeremiah 38:23 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Felly hwy a ddygant allan dy holl wragedd a'th blant at y Caldeaid, ac ni ddihengi dithau o'u llaw hwynt; canys â llaw brenin Babilon y'th ddelir; a'r ddinas hon a losgi â thân.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd dy wragedd a dy blant i gyd yn cael eu cymryd gan y Babiloniaid. A fyddi di dy hun ddim yn dianc o'u gafael nhw chwaith — bydd brenin Babilon yn dy ddal di. A bydd y ddinas yma'n cael ei llosgi'n ulw.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dygir allan dy holl wragedd a'th blant at y Caldeaid, ac ni ddihengi dithau o'u gafael, ond fe'th ddelir yng ngafael brenin Babilon, a llosgir y ddinas hon thn."