Jeremiah 38:6 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna hwy a gymerasant Jeremeia, ac a'i bwriasant ef i ddaeardy Malcheia mab Hammelech, yr hwn oedd yng nghyntedd y carchardy: a hwy a ollyngasant Jeremeia i waered wrth raffau. Ac nid oedd dwfr yn y daeardy, ond tom: felly Jeremeia a lynodd yn y dom.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma nhw'n cymryd Jeremeia a'i daflu i bydew Malcîa, aelod o'r teulu brenhinol. Mae'r pydew yn iard y gwarchodlu, a dyma nhw'n ei ollwng i lawr iddo gyda rhaffau. Doedd dim dŵr yn y pydew, ond roedd mwd ar y gwaelod. A dyma Jeremeia yn suddo i mewn i'r mwd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A chymerasant Jeremeia, a'i fwrw i bydew Malcheia, mab y brenin, yng nghyntedd y gwylwyr; gollyngasant Jeremeia i lawr wrth raffau. Nid oedd du373?r yn y pydew, dim ond llaid, a suddodd Jeremeia yn y llaid.