Jeremiah 38:7 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan glybu Ebedmelech yr Ethiopiad, un o'r ystafellyddion yr hwn oedd yn nhŷ y brenin, iddynt hwy roddi Jeremeia yn y daeardy, (a'r brenin yn eistedd ym mhorth Benjamin,)
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dyma Ebed-melech, dyn du o Affrica oedd yn swyddog yn y llys brenhinol, yn clywed eu bod nhw wedi rhoi Jeremeia yn y pydew. Roedd y brenin mewn achos llys wrth Giât Benjamin ar y pryd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Clywodd Ebed-melech yr Ethiopiad, eunuch ym mhlasty'r brenin, eu bod wedi rhoi Jeremeia yn y pydew. Yr oedd y brenin yn eistedd ym mhorth Benjamin,