Jeremiah 38:9 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
O fy arglwydd frenin, drwg y gwnaeth y gwŷr hyn yng nghwbl ag a wnaethant i Jeremeia y proffwyd, yr hwn a fwriasant hwy i'r daeardy; ac efe a fydd farw o newyn yn y fan lle y mae, oherwydd nid oes bara mwyach yn y ddinas.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Fy mrenin, syr,” meddai, “mae'r dynion yna wedi gwneud peth drwg iawn yn y ffordd maen nhw wedi trin y proffwyd Jeremeia. Maen nhw wedi ei daflu i mewn i'r pydew. Mae'n siŵr o lwgu i farwolaeth yno achos does prin dim bwyd ar ôl yn y ddinas.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"F'arglwydd frenin, gwnaeth y gwu375?r hyn ddrwg ym mhob peth a wnaethant i'r proffwyd Jeremeia, trwy ei fwrw i'r pydew; bydd farw yn y lle gan y newyn, am nad oes bara mwyach yn y ddinas."