Jeremiah 39:5 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A llu y Caldeaid a erlidiasant ar eu hôl hwynt, ac a oddiweddasant Sedeceia yn rhosydd Jericho, ac a'i daliasant ef, ac a'i dygasant at Nebuchodonosor brenin Babilon, i Ribla yng ngwlad Hamath; lle y rhoddodd efe farn arno.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond aeth byddin Babilon ar eu holau a dal Sedeceia ar wastatir Jericho. Dyma nhw'n mynd ag e i sefyll ei brawf o flaen Nebwchadnesar, brenin Babilon, yn Ribla yn ardal Chamath.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond canlynodd llu'r Caldeaid hwy, a goddiweddyd Sedeceia yn rhosydd Jericho a'i ddal, a'i ddwyn at Nebuchadnesar brenin Babilon yn Ribla yng ngwlad Hamath; yno y dyfarnwyd arno.