Jeremiah 39:9 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna Nebusaradan pennaeth y milwyr a gaethgludodd i Babilon weddill y bobl y rhai a adawsid yn y ddinas, a'r encilwyr y rhai a giliasent ato ef, ynghyd â gweddill y bobl y rhai a adawsid.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wedyn dyma Nebwsaradan, capten y gwarchodlu brenhinol, yn mynd â'r bobl oedd ar ôl yn y ddinas yn gaeth i Babilon — gan gynnwys y bobl oedd wedi dianc ato o Jerwsalem yn gynharach.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna caethgludodd Nebusaradan, pennaeth y milwyr, weddill y bobl i Fabilon, sef y rhai oedd wedi eu gadael yn y ddinas, a'r rhai oedd wedi troi ato ef;