Jeremiah 4:10 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y dywedais, O ARGLWYDD DDUW, yn sicr gan dwyllo ti a dwyllaist y bobl yma a Jerwsalem, gan ddywedyd, Bydd heddwch i chwi; ac eto fe ddaeth y cleddyf hyd at yr enaid.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Fy ymateb i oedd, “O! Feistr, ARGLWYDD, mae'n rhaid dy fod ti wedi twyllo'r bobl yma'n llwyr, a Jerwsalem hefyd! Roeddet ti wedi addo heddwch i Jerwsalem, ond mae cleddyf yn cyffwrdd ein gyddfau ni!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna dywedais, "O ARGLWYDD Dduw, yr wyt wedi llwyr dwyllo'r bobl hyn a Jerwsalem, gan ddweud, 'Bydd heddwch i chwi'; ond trywanodd y cleddyf i'r byw."