Jeremiah 4:19 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Fy mol, fy mol; gofidus wyf o barwydennau fy nghalon; mae fy nghalon yn terfysgu ynof: ni allaf dewi, am i ti glywed sain yr utgorn, O fy enaid, a gwaedd rhyfel.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
O'r poen dw i'n ei deimlo! Mae fel gwayw yn fy mol, ac mae fy nghalon i'n pwmpio'n wyllt. Alla i ddim cadw'n dawel wrth glywed y corn hwrdd yn seinio a'r milwyr yn gweiddi “I'r gâd!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Fy ngwewyr! Fy ngwewyr! Rwy'n gwingo mewn poen. O, barwydydd fy nghalon! Y mae fy nghalon yn derfysg ynof; ni allaf dewi. Canys clywaf sain utgorn, twrf rhyfel.