Jeremiah 4:2 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A thi a dyngi, Byw yw yr ARGLWYDD, mewn gwirionedd, mewn barn, ac mewn cyfiawnder: a'r cenhedloedd a ymfendithiant ynddo; ie, ynddo ef yr ymglodforant.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dweud y gwir, a bod yn onest wrth dyngu llw, ‘Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw!’ Wedyn bydd y cenhedloedd am iddo eu bendithio nhw, a byddan nhw'n ymffrostio ynddo.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ac os tyngi mewn gwirionedd, mewn barn a chyfiawnder, 'Byw yw yr ARGLWYDD', yna fe ymfendithia'r cenhedloedd ynddo, ac ymglodfori ynddo."