Jeremiah 4:22 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys y mae fy mhobl i yn ynfyd heb fy adnabod i; meibion angall ydynt, ac nid deallgar hwynt: y maent yn synhwyrol i wneuthur drwg, eithr gwneuthur da ni fedrant.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Mae fy mhobl yn ffyliaid. Dŷn nhw ddim yn fy nabod i go iawn. Maen nhw fel plant heb ddim sens. Dŷn nhw'n deall dim byd! Maen nhw'n hen lawiau ar wneud drwg, ond ddim yn gwybod sut i wneud beth sy'n dda.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae fy mhobl yn ynfyd, nid ydynt yn fy adnabod i; plant angall ydynt, nid rhai deallus mohonynt. Y maent yn fedrus i wneud drygioni, ond ni wyddant sut i wneud daioni.