Jeremiah 4:29 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Rhag trwst y gwŷr meirch a'r saethyddion y ffy yr holl ddinas; hwy a ânt i'r drysni, ac a ddringant ar y creigiau: yr holl ddinasoedd a adewir, ac heb neb a drigo ynddynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae sŵn y marchogion a'r bwasaethwyr yn dod, ac mae pawb yn ffoi o'r trefi. Maen nhw'n cuddio yn y llwyni, ac yn dringo'r clogwyni. Mae'r trefi'n wag — does neb ar ôl ynddyn nhw!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Rhag trwst marchogion a phlygwyr bwa y mae'r holl ddinas yn ffoi, yn mynd i'r drysni ac yn dringo i'r creigiau. Gadewir yr holl ddinasoedd heb neb i drigo ynddynt.