Jeremiah 4:30 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A thithau yr anrheithiedig, beth a wnei? Er ymwisgo ohonot ag ysgarlad, er i ti ymdrwsio â thlysau aur, er i ti liwio dy wyneb â lliwiau, yn ofer y'th wnei dy hun yn deg; dy gariadau a'th ddirmygant, ac a geisiant dy einioes.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A tithau'r ddinas sy'n mynd i gael dy ddinistrio — Beth wyt ti'n wneud yn dy ddillad gorau? Pam wyt ti'n addurno dy hun hefo dy dlysau? Pam wyt ti'n rhoi colur ar dy lygaid? Does dim pwynt i ti wisgo colur. Mae dy ‛gariadon‛ wedi dy wrthod; maen nhw eisiau dy ladd di!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A thithau'n anrheithiedig, beth wyt ti'n ei wneud wedi dy wisgo ag ysgarlad, ac wedi ymdrwsio thlysau aur, a lliwio dy lygaid? Yn ofer yr wyt yn dy wneud dy hun yn deg. Bydd dy gariadon yn dy ddirmygu, ac yn ceisio dy einioes.