Jeremiah 4:31 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys clywais lef megis gwraig yn esgor, cyfyngder fel benyw yn esgor ar ei hetifedd cyntaf, llef merch Seion yn ochain, ac yn lledu ei dwylo, gan ddywedyd, Gwae fi yr awr hon! oblegid diffygiodd fy enaid gan leiddiaid.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
I ddweud y gwir, dw i wedi clywed sŵn crïo. Sŵn gwraig ifanc mewn poen wrth gael ei babi cyntaf. Sŵn Seion yn anadlu'n drwm, ac yn pledio am help: “Mae ar ben arna i! Mae'r llofruddion yma wedi cael y gorau arna i.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ie, clywaf gri fel gwraig yn esgor, llef ingol fel un yn esgor ar ei chyntafanedig cri merch Seion yn ochain, ac yn gwasgu ar ei dwylo: "Gwae fi! Rwy'n diffygio, a'r lleiddiaid am fy einioes."