Jeremiah 4:5 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Mynegwch yn Jwda, a chyhoeddwch yn Jerwsalem, a dywedwch, Utgenwch utgorn yn y tir: gwaeddwch, ymgesglwch, a dywedwch, Ymgynullwch, ac awn i'r dinasoedd caerog.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Cyhoeddwch hyn yn Jwda, a dweud wrth bawb yn Jerwsalem: ‘Chwythwch y corn hwrdd i rybuddio pobl drwy'r wlad i gyd.’ Gwaeddwch yn uchel, ‘Dewch, rhaid dianc i'r trefi caerog!’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Mynegwch yn Jwda, cyhoeddwch yn Jerwsalem, a dywedwch, 'Canwch utgorn yn y tir, bloeddiwch yn uchel.' A dywedwch, 'Ymgynullwch, ac awn i'r dinasoedd caerog.'