Jeremiah 4:7 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y llew a ddaeth i fyny o'i loches, a difethwr y Cenhedloedd a gychwynnodd, ac a aeth allan o'i drigle, i wneuthur dy dir yn orwag; a'th ddinasoedd a ddinistrir heb drigiannydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae llew wedi dod allan o'i ffau! Mae'r un sy'n dinistrio cenhedloedd ar ei ffordd. Mae'n dod i ddifetha'r wlad, a gwneud ei threfi yn adfeilion lle bydd neb yn byw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Daeth llew i fyny o'i loches, cychwynnodd difethwr y cenhedloedd, a daeth allan o'i drigle i wneud dy dir yn anrhaith, ac fe ddinistrir dy ddinasoedd heb breswyliwr.