Jeremiah 40:11 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan glybu yr holl Iddewon y rhai oedd ym Moab, ac ymysg meibion Ammon, ac yn Edom, ac yn yr holl wledydd, i frenin Babilon adael gweddill o Jwda, a gosod Gedaleia mab Ahicam mab Saffan yn llywydd arnynt hwy;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd llawer o bobl Jwda wedi dianc yn ffoaduriaid i Moab, gwlad Ammon, Edom a gwledydd eraill, a dyma nhw'n clywed beth oedd wedi digwydd. Clywon nhw fod brenin Babilon wedi gadael i rai pobl aros yn Jwda, a'i fod wedi penodi Gedaleia i reoli'r wlad.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna clywodd yr holl Iddewon oedd yn Moab, ac ymhlith Ammon ac yn Edom ac yn yr holl wledydd, fod brenin Babilon wedi gadael gweddill yn Jwda, a gosod Gedaleia fab Ahicam, fab Saffan yn arolygydd arnynt;