Jeremiah 40:15 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna Johanan mab Carea a ddywedodd wrth Gedaleia ym Mispa yn gyfrinachol, gan ddywedyd, Gad i mi fyned, atolwg, a mi a laddaf Ismael mab Nethaneia, ac ni chaiff neb wybod: paham y lladdai efe di, fel y gwasgerid yr holl Iddewon y rhai a ymgasglasant atat ti, ac y darfyddai am y gweddill yn Jwda?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wedyn dyma Iochanan fab Careach yn cael gair preifat hefo Gedaleia ym Mitspa. “Gad i mi fynd i ladd Ishmael fab Nethaneia,” meddai. “Fydd neb yn gwybod am y peth. Rhaid i ni beidio gadael iddo dy lofruddio di, neu bydd pobl Jwda sydd wedi dy gefnogi di yn mynd ar chwâl, a bydd y rhai sydd ar ôl yn Jwda yn diflannu!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A dywedodd Johanan fab Carea yn gyfrinachol wrth Gedaleia yn Mispa, "Da ti, gad imi fynd, heb yn wybod i neb, a lladd Ismael fab Nethaneia. Pam y caiff ef dy ladd di, a gwasgaru'r holl Iddewon a ymgasglodd atat, a pheri i'r gweddill yn Jwda ddarfod?"