Jeremiah 40:16 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond Gedaleia mab Ahicam a ddywedodd wrth Johanan mab Carea, Na wna y peth hyn: canys celwydd yr ydwyt ti yn ei ddywedyd am Ismael.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dyma Gedaleia yn ateb Iochanan, “Paid meiddio gwneud y fath beth! Dydy beth rwyt ti'n ddweud am Ishmael ddim yn wir.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond dywedodd Gedaleia fab Ahicam wrth Johanan fab Carea, "Paid gwneud hynny, oherwydd yr wyt yn dweud celwydd am Ismael."