Jeremiah 40:7 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan glybu holl dywysogion y lluoedd, y rhai oedd ar hyd y wlad, hwynt‐hwy a'u gwŷr, i frenin Babilon osod Gedaleia mab Ahicam ar y wlad, ac iddo roddi dan ei law ef wŷr, a gwragedd, a phlant, ac o dlodion y wlad, o'r rhai ni chaethgludasid i Babilon;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd rhai o swyddogion byddin Jwda a'u milwyr wedi bod yn cuddio yng nghefn gwlad. Dyma nhw'n clywed fod brenin Babilon wedi penodi Gedaleia fab Achicam i reoli'r wlad, a bod dynion, gwragedd a phlant mwya tlawd y wlad wedi eu gadael yno a heb eu cymryd yn gaeth i Babilon.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan glywodd holl swyddogion y lluoedd, a'r milwyr oedd ar hyd y wlad, fod brenin Babilon wedi gosod Gedaleia fab Ahicam i arolygu'r wlad, ac i fwrw golwg dros y rhai tlawd, yn wu375?r, gwragedd a phlant, oedd heb eu caethgludo i Fabilon,